Unwaith eto, rwy'n dibynnu ar eiriau personol rhywun arall - ond mae'r blogiad hwn o eiddo'r Aelod Cynulliad Llyr Huws Gruffydd yn un dewr, ac mae ei brofiad e'n peri i rywun fel fi fagu hunan-hyder er mwyn gallu rhannu fy mhrofiad innau ag iselder ysbryd ymhlith ambell ffrind agos. Diolch Llyr am eich gonestrwydd. Daliwch ati!
--
Oeddwn i yn barod i siarad am iselder?
Roeddwn yn eithaf nerfus yn ystod y dyddiau cyn y ddadl yn y Cynulliad pan wnaeth y pedwar ohonom rannu ein profiadau. Doedd gen i ddim syniad beth i'w ddisgwyl.Pa effaith emosiynol fyddai hyn yn ei chael arna i? Sut fyddai pobl eraill yn ymateb ar ôl i mi adrodd fy stori?
Mae siarad yn gyhoeddus am fy salwch meddwl yn un peth. Roedd dweud wrth y sawl sydd agosaf ataf fy mod i'n mynd i wneud hyn yn anoddach fyth.
Roedd rhai ohonyn nhw, gan gynnwys fy rhieni, yn clywed am y tro cyntaf fy mod i wedi dioddef o iselder ac fy mod i wedi brwydro ers amser hir i gadw fy salwch yn gyfrinach cyn i mi chwilio am help yn y pen draw a'i gael er mwyn gwella. Roedd hynny ynddo ei hun yn rhywbeth mawr iddyn nhw. Ond wedyn, roedd sylweddoli fy mod i'n bwriadu siarad am fy salwch yn y Cynulliad, yn gyhoeddus, ar y teledu ac ar y radio yn fwy fyth o sioc.
Wedyn daeth y diwrnod mawr. Roedd y blog yn barod, roedd fy araith yn barod - ond a oeddwn i'n barod? A fyddwn i'n gallu rheoli fy nheimladau? Dechreuodd y bore gydag ychydig o gyfweliadau radio. Ddeuddeg mis yn ddiweddarach ac rwy'n dal i gofio fy llais yn torri ychydig yn ystod cyfweliad ar Radio Wales. Roedd fy ngwddf yn sych, ond roedd gen i ofn y byddai pobl yn meddwl fy mod i'n torri i lawr. Yn dilyn hynny, roedd cyfweliadau teledu a galwadau ffôn gan newyddiadurwyr ac wedyn daeth y foment i sefyll ar fy nhraed a siarad yn Siambr y Cynulliad.
Wrth i mi godi ar fy nhraed, roeddwn yn disgwyl teimlo fel y gwningen ddiarhebol yn wynebu goleuadau'r car, a llygaid y cyhoedd yn tynnu sylw at bob anadl a phob gair. Ond yn rhyfedd ddigon, roedd y teimlad yn wahanol iawn, iawn. Wrth i mi barhau i siarad, dechreuais sylweddoli nad arna i yn benodol oedd y ffocws, nac ychwaith ar y pedwar unigolyn a oedd yn rhannu ein profiadau. Roeddwn yn gallu teimlo'r holl Gynulliad Cenedlaethol yn dod ynghyd i fynegi cefnogaeth i bawb sydd yn, neu sydd wedi dioddef o salwch meddwl.
Roedd y negeseuon o gefnogaeth a ddilynodd yn anhygoel. Does dim un wythnos, mae'n debyg, wedi mynd heibio heb i rywun ddiolch i mi am adrodd fy stori. Maen nhw am ddiolch i mi oherwydd bod hynny wedi rhoi'r hyder iddyn nhw ddechrau sgwrs am iechyd meddwl. Naill ai i ddweud wrth rywun am eu profiad nhw eu hunain, neu i drafod iechyd meddwl gyda ffrind, aelod o'r teulu neu gydweithiwr.
Rwy'n adnabod ambell un yn dda, a doeddwn i erioed wedi dychmygu eu bod wedi dioddef o salwch meddwl - ond mae'n debyg mai dyna'n union roedden nhw'n ei feddwl amdanaf i, ddeuddeg mis yn ôl! Mae eraill yn wynebau rwy'n eu hadnabod a llawer nad ydw i erioed wedi eu cyfarfod o'r blaen.
Heddiw, dwi ddim yn ofni siarad am fy iselder. Bob tro rwy'n siarad amdano, naill ai yn achlysurol fel mae'n codi mewn sgwrs, neu yn fwy ffurfiol, drwy siarad â grwpiau neu gynadleddau, mae'n fy ngwneud i'n gryfach. Mae'n helpu i roi persbectif cliriach i mi ar y cyfnod hwnnw yn fy mywyd.
Rwy'n hynod o falch fy mod i wedi siarad yn agored am fy mhrofiad o iselder. Dydy pobl ddim yn meddwl ddwywaith am siarad am eu hiechyd corfforol, ac ni ddylai iechyd meddwl fod yn wahanol i hynny. Mae'r profiad wedi fy ngwneud i'n fwy penderfynol byth o wneud popeth y galla i er mwyn helpu i fynd i'r afael ag unrhyw stigma neu wahaniaethu. Wedi'r cwbl, mae'n amser i newid.
http://www.timetochangewales.org.uk/cy/blogs-stories/was-i-ready-year-talking-about-depression/