Fel y soniais i yn y blogiad ddoe, mae gan Amser i Newid Cymru stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Heddiw, gwelais y llun yma ar eu tudalen facebook. Mae'n crynhoi fy nheimladau i'n union: "Dw i'n gaddo siarad mwy am yr iselder sydd wedi bod yn rhan o'm mywyd i am flynyddoedd, ac i bod yn mwy agored fel bod pawb yn dod i ddeall nad oes dim yn bod ar salwch meddwl." https://www.facebook.com/amserinewidcymru
Mae'n dda gweld tudalen facebook newydd sbon gan Amser i Newid Cymru yn benodol ar gyfer trafod iechyd meddwl yn y Gymraeg. https://www.facebook.com/amserinewidcymru
Gwelaf o'u tudalen facebook hefyd eu bod nhw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Mae popeth fel hyn yn help i herio stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl. Rwy'n teimlo'n euog i raddau am nad ydw i wedi ysgrifennu dim ar y blog yma ers chydig ddyddiau. Ond mae'n rhaid dweud fy mod i wedi cael cyfnod eitha da. Mae'r haul wedi bod yn gwenu arnom yng Nghymru fach - a diolch amdano! - ac felly mae fy nghorff i wedi cael tipyn o serotonin a fitamin D.
Ydy, mae'r iselder ysbryd yn dal i fod yn rhan ohona i, ond rwy'n gallu byw bywyd 'normal'. Ac yr adegau da, dyw fy salwch / cyflwr / gwendid / beth bynnag y galwch chi e, ddim yn fy rhwystro rhag byw bywyd llawn. Mae lle gen i ddiolch am hynny. |