Nid yw'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn un arbennig o dda, mae'n rhaid cyfaddef. Mae'n anodd weithiau i ddiffinio'r symtomau, ond yn ogystal â phyliau o iselder - teimlo'n ddiymadferth a diwerth, a chydig o baranoia - mae'r corff hefyd wedi bod yn wan iawn. Sy'n cadarnhau nad yn y "meddwl" yn unig y mae iselder na sawl math o "salwch meddwl". Fedra'i ddim help bod yn dost, ddim mwy nac y gall y sawl sy'n dioddef o arthritis neu glefyd y gwair neu unrhyw glefyd a salwch arall ei help. Ond yr hyn yr anghofir amdano o bosib yw bod salwch meddwl yn salwch cofforol hefyd.
Mae'r cemegau yn fy ymennydd yn ansefydlog.
Dyna fy salwch i yn y bôn. Ac ie, mae hynny'n peri i mi deimlo'n isel iawn fel petawn i mewn twll du. Ond mae hefyd yn golygu bod fy nghorff i'n dioddef. Mae'r cemegau anghyson neu ansefydlog yn golygu y gall fy nghorff fod yn wan. Mae'n gwneud synnwyr i mi ... gobeithio bod hyn yn glir fel jin i chithau!