Rwy'n ymwybodol fod tipyn o'r blog yma'n sôn am brofiadau eraill o iselder yn hytrach na'm profiadau fi fy hun. Yn unpeth, efallai bod hynny'n "haws" (neu'n ddiog!) nac ymbalfalu i ddyfnder fy meddyliau. Ond hefyd, mae yna lawer sy'n gyffredin rhyngom o glywed am brofiadau eraill, ac rwy'n diolch am bob un sy'n barod i agor ei galon a'i feddwl i wneud salwch meddwl yn rhywbeth y mae llawer mwy o siarad yn ei gylch.
Digwyddais weld ar Twitter gyfeiriad at gyfweliad radio Paul Griffiths ar raglen Dylan Iorwerth, 'Dan yr Wyneb' , ddoe (1 Gorffennaf). Gwrandewch ar brofiad Paul. Dwi ddim yn ei adnabod yn bersonol, ond diolch iddo am ei onestrwydd a'i bersonoliaeth agos-atoch.
http://www.bbc.co.uk/programmes/b0366k1d