Mae'r wasg a'r cyfryngau wedi cario sawl stori yn ddiweddar am dwpdra neu hyfdra (neu ba bynnag derm mynnwch chi) cwmniau mawr sydd wedi'n portreadu ni sy'n dioddef o salwch meddwl fel pobl gorffwyll, dwl, llofruddwyr, dychrynllyd. Af i ddim i ymhelaethu'n fwy - mae'r ymateb a'r 'backlash' gan unigolion ar Twitter er enghraifft yn dweud y cyfan. Fel y mae'r ymateb mwy 'swyddogol' gan Mind, Amser i Newid a Time to Change, ymhlith eraill. Diolch i bawb am godi llais yn erbyn pob stigma.