Fel y soniais i yn y blogiad ddoe, mae gan Amser i Newid Cymru stondin ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol. Heddiw, gwelais y llun yma ar eu tudalen facebook. Mae'n crynhoi fy nheimladau i'n union: "Dw i'n gaddo siarad mwy am yr iselder sydd wedi bod yn rhan o'm mywyd i am flynyddoedd, ac i bod yn mwy agored fel bod pawb yn dod i ddeall nad oes dim yn bod ar salwch meddwl." https://www.facebook.com/amserinewidcymru
Mae'n dda gweld tudalen facebook newydd sbon gan Amser i Newid Cymru yn benodol ar gyfer trafod iechyd meddwl yn y Gymraeg. https://www.facebook.com/amserinewidcymru
Gwelaf o'u tudalen facebook hefyd eu bod nhw ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol yn Ninbych. Mae popeth fel hyn yn help i herio stigma sy'n gysylltiedig â salwch meddwl. Rwy'n teimlo'n euog i raddau am nad ydw i wedi ysgrifennu dim ar y blog yma ers chydig ddyddiau. Ond mae'n rhaid dweud fy mod i wedi cael cyfnod eitha da. Mae'r haul wedi bod yn gwenu arnom yng Nghymru fach - a diolch amdano! - ac felly mae fy nghorff i wedi cael tipyn o serotonin a fitamin D.
Ydy, mae'r iselder ysbryd yn dal i fod yn rhan ohona i, ond rwy'n gallu byw bywyd 'normal'. Ac yr adegau da, dyw fy salwch / cyflwr / gwendid / beth bynnag y galwch chi e, ddim yn fy rhwystro rhag byw bywyd llawn. Mae lle gen i ddiolch am hynny. Nid yw'r wythnos ddiwethaf wedi bod yn un arbennig o dda, mae'n rhaid cyfaddef. Mae'n anodd weithiau i ddiffinio'r symtomau, ond yn ogystal â phyliau o iselder - teimlo'n ddiymadferth a diwerth, a chydig o baranoia - mae'r corff hefyd wedi bod yn wan iawn. Sy'n cadarnhau nad yn y "meddwl" yn unig y mae iselder na sawl math o "salwch meddwl". Fedra'i ddim help bod yn dost, ddim mwy nac y gall y sawl sy'n dioddef o arthritis neu glefyd y gwair neu unrhyw glefyd a salwch arall ei help. Ond yr hyn yr anghofir amdano o bosib yw bod salwch meddwl yn salwch cofforol hefyd.
Mae'r cemegau yn fy ymennydd yn ansefydlog. Dyna fy salwch i yn y bôn. Ac ie, mae hynny'n peri i mi deimlo'n isel iawn fel petawn i mewn twll du. Ond mae hefyd yn golygu bod fy nghorff i'n dioddef. Mae'r cemegau anghyson neu ansefydlog yn golygu y gall fy nghorff fod yn wan. Mae'n gwneud synnwyr i mi ... gobeithio bod hyn yn glir fel jin i chithau! Rwy'n ymwybodol fod tipyn o'r blog yma'n sôn am brofiadau eraill o iselder yn hytrach na'm profiadau fi fy hun. Yn unpeth, efallai bod hynny'n "haws" (neu'n ddiog!) nac ymbalfalu i ddyfnder fy meddyliau. Ond hefyd, mae yna lawer sy'n gyffredin rhyngom o glywed am brofiadau eraill, ac rwy'n diolch am bob un sy'n barod i agor ei galon a'i feddwl i wneud salwch meddwl yn rhywbeth y mae llawer mwy o siarad yn ei gylch.
Digwyddais weld ar Twitter gyfeiriad at gyfweliad radio Paul Griffiths ar raglen Dylan Iorwerth, 'Dan yr Wyneb' , ddoe (1 Gorffennaf). Gwrandewch ar brofiad Paul. Dwi ddim yn ei adnabod yn bersonol, ond diolch iddo am ei onestrwydd a'i bersonoliaeth agos-atoch. http://www.bbc.co.uk/programmes/b0366k1d Rwyf wedi cael fy rhybuddio gan fy nheulu a'm ffrindiau bod y Daily Mail yn bapur na ddylwn i roi gormod o goel i'w straeon na'i "newyddiaduraeth". Mae'r erthygl heddiw am Flaenau Gwent yn 'hooked on happy pills' yn enghraifft o'r math o stori rad, unochrog, arwynebol sy'n y papur. Efallai na ddylwn i fod yn gwastraffu gofod ar y blog hwn i dynnu sylw a rhoi linc i'r papur, ond dyna ni, waeth i chithau gael darllen y darlun trist (ac nid trist yn yr ystyr emosiynol na meddygol) sydd yn y stori:
http://www.dailymail.co.uk/news/article-2348488/Blaenau-Gwent-Wales-Town-hooked-happy-pills.html Rwy'n ffan o Stephen Fry, mae'n rhaid i mi gyfaddef. Ac yn fwy fyth o ffan wedi iddo fod mor agored am ei salwch meddwl.
Dyma'i flog heddiw; mae ganddo ddawn arbennig i roi'i brofiadau a'i feddyliau ar bapur (neu ar sgrin yn yr achos hwn). Darllenwch! http://www.stephenfry.com/2013/06/24/only-the-lonely/ Fe eraill o bosib sy'n dioddef o iselder ysbryd, mae yna gyfnodau o deimlo'n reit dda, a chyfnodau o deimlo'n isel, ansicr, trist a sigledig. Mae heddiw'n un o'r diwrnodau hynny dwi wedi profi'r ddau begwn. Nid fy mod i wedi cael fy diagnosio ag anhwylder deubegwn (bioplar disorder), ond rwy'n ymwybodol iawn y gall y meddwl a'r ysbryd newid o fewn ychydig oriau.
Bu bore heddiw yn fore da. Rwy'n lwcus fy mod i'n dal gafael ar fy swydd (er nad yw hynny'n beth rhwydd bob dydd), a phrin iawn yw'r bobl sy'n gwybod fy mod i'n dioddef o iselder - mae hynny'n cynnwys fy nghydweithwyr, fy ffrindiau a hyd yn oed aelodau o'm teulu. (Mater arall yw pa mor "lwcus" o bosib yw hynny - efallai ei bod hi'n wendid arnaf i am fethu dweud wrthyn nhw.) Ond mi fyddai rhai yn synnu ac yn rhyfeddu o glywed am fy salwch, mae'n siŵr gen i, ac yn meddwl taw fi fyddai'r person diwethaf i fod yn isel! Oherwydd bore heddiw fe wnes i beri i'm cydweithwyr chwerthin a chael hwyl wrth adrodd straeon digri. Ac roedd hynny'n deimlad braf. Sy'n dwyn i gof stori a glywais i gan ddarlithydd enwog: Aeth dyn at y meddyg a dweud, 'Doctor, rwy'n teimlo'n isel'. [Mae'n swnio fel dechreuad i jôc!] Dyma'r doctor yn awgrymu, 'Pam nad ewch chi i godi'ch calon a mynd i weld perfformiad Coco'r Clown?' Ac yna mae'r ateb yn dod, 'Fedra'i ddim doctor. Fi yw Coco'r Clown.' Waw, dyna beth yw dyfnder! Mae'r prynhawn yn tipyn mwy o struggle. Methu canolbwyntio, methu paratoi a meddwl ymlaen, ofni beth y mae pobl yn feddwl ohona'i ... Ond rwy'n dal ati, a dyna sy'n bwysig. Dwi ddim yn gadael i'r salwch reoli fy mywyd. Mae'r awydd i greu'r wefan hon wedi codi o'r trafod agored, gonest fu ar Taro'r Post (BBC Radio Cymru) yr wythnos ddiwethaf.
Dyma erthygl ar wefan BBC Cymru yn cyfeirio at un o gyfrannwyr y sgwrs ar Taro'r Post, Bethan Jenkins AC. ---- 'Anodd siarad am iselder' Mae'r AC Bethan Jenkins wedi bod yn siarad am ei hiselder - a'i hymateb i'r ffaith fod yr actor Stephen Fry wedi siarad am ei ymgais i ladd ei hun y llynedd. Wrth siarad â rhaglen Taro'r Post, dywedodd Ms Jenkins: "Mae'n anodd i bobl sy' ddim yn diodde' i ddeall, ond y mwya o bobl sy'n siarad am y peth, fi'n credu y bydd e'n helpu'r achos ac yn help i bobl i ddeall..." Pan gafodd Bethan Jenkins ei dedfrydu am yfed a gyrru'r llynedd, dywedodd ei chyfreithiwr ei bod yn dioddef o iselder. 'Pwysig i siarad' Dywedodd Ms Jenkins ei bod hi'n ei chael hi'n anodd siarad yn gyhoeddus am y cyflwr. "Mae e yn anodd, achos fi'n credu unwaith mae pobl yn siarad am y peth, mae rhai pobl wastad yn mynd i ddweud 'wel ydy hi'n dweud y gwirionedd'? 'ai dyna beth sydd yn digwydd?' neu falle'n cwestiynu ydych chi'n ddigon cryf wedyn i neud y swydd rydych chi'n gneud," meddai. "Mae e yn anodd siarad amdano, oherwydd mae e am dy fywyd personol - ond fi'n credu bod hi'n bwysig i bobl siarad. Dwi wedi cael lot o negeseuon ar Twitter, Facebook ac e-bost gan bobl sydd wedi rhannu eu straeon fel rhan o'r ymgyrch Time to change ." "Ro'n i wedi bod yn derbyn cwnsela cyn y digwyddiad y flwyddyn ddiwethaf, felly ro'n i wedi dechrau dod i ddygymod a'r peth rili, ond fel gyda lot o broblemau iechyd meddwl 'da chi'n trio gwadu fe i chi'ch hun, 'da chi jyst yn dweud 'wel dwi wedi cael diwrnod anodd yn y gwaith, neu 'dwi jyst yn teimlo'n isel achos bod rhywbeth wedi digwydd yn y dydd' ond nid dyna beth yw e, problem iselder yw e. "Dwi wedi gneud eitha' lot gydag anhwylderau bwyta, ac mae pobl sy'n cael anhwylder bwyta yn gwadu eu bod nhw'n sâl. "Dwi'n credu mai dyna beth oedd e gyda fi am sbel fawr - jyst trio cario ymlaen gyda gwaith, jyst trio bod yn gryf, trio copeio, ond wedyn sylweddoli bod e ddim yn bosib a hwnna yn anffodus yn arwain at ddigwyddiad ble yn amlwg dwi ddim yn hapus bod e wedi digwydd, ond mae rhaid i bobl gael eu maddau hefyd." "Mae rhaid i bobl gael ail gyfle... Rydw i wedi dysgu o'r hyn nes i, ac mae pobl yn eironig wedi gallu dod lan ata i a siarad â fi, a dweud 'wel Bethan dy' ni'n credu ynddoch chi achos bod chi'n real, achos bod chi wedi cael problemau, does dim un ohonom ni'n berffaith'. "Ac wedyn dwi'n teimlo cysur fod pobl yn gweld hynny, ac yn fodlon maddau ac yn fodlon gweld nawr be' dwi'n gneud fel Aelod Cynulliad a'r gwaith caled dwi'n gneud, er fy mod i'n dal yn dioddef o iselder... Cuddio'r cyflwr Cytunodd ei bod hi wedi llwyddo i guddio'i chyflwr yn dda. "Weithiau gydag iselder, ma' rhaid i chi ddangos rhyw fath o ffrynt mawr a phan ych chi'n mynd adre, 'da chi ddim yn teimlo fel yna rhagor." "Mae'n iawn i bobl ddweud , 'wel chi'n edrych yn iawn Bethan', ond nid sut ' mae pobl yn edrych yw e, sut mae pobl yn teimlo tu fewn." "Mae'n bwnc anodd iawn i fi siarad amdano." Dywedodd fod angen sicrhau digon o help i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl gan gynnwys triniaeth, a mynediad i gynghorwyr arbenigol yn hytrach na rhoi'r argraff i bobl bod angen iddyn nhw fynd i'r afael â'r problemau ar eu pennau eu hunain. Hynny, meddai, sy'n achosi sefyllfaoedd ble mae pobl yn meddwl am gymryd eu bywydau eu hun, a ble mae niferoedd y dynion ifanc sy'n lladd eu hunain yng Nghymru "yn afresymol o uchel". http://www.bbc.co.uk/newyddion/22804884 |