Rwy'n teimlo'n euog i raddau am nad ydw i wedi ysgrifennu dim ar y blog yma ers chydig ddyddiau. Ond mae'n rhaid dweud fy mod i wedi cael cyfnod eitha da. Mae'r haul wedi bod yn gwenu arnom yng Nghymru fach - a diolch amdano! - ac felly mae fy nghorff i wedi cael tipyn o serotonin a fitamin D.
Ydy, mae'r iselder ysbryd yn dal i fod yn rhan ohona i, ond rwy'n gallu byw bywyd 'normal'. Ac yr adegau da, dyw fy salwch / cyflwr / gwendid / beth bynnag y galwch chi e, ddim yn fy rhwystro rhag byw bywyd llawn. Mae lle gen i ddiolch am hynny.