Fe eraill o bosib sy'n dioddef o iselder ysbryd, mae yna gyfnodau o deimlo'n reit dda, a chyfnodau o deimlo'n isel, ansicr, trist a sigledig. Mae heddiw'n un o'r diwrnodau hynny dwi wedi profi'r ddau begwn. Nid fy mod i wedi cael fy diagnosio ag anhwylder deubegwn (bioplar disorder), ond rwy'n ymwybodol iawn y gall y meddwl a'r ysbryd newid o fewn ychydig oriau.
Bu bore heddiw yn fore da. Rwy'n lwcus fy mod i'n dal gafael ar fy swydd (er nad yw hynny'n beth rhwydd bob dydd), a phrin iawn yw'r bobl sy'n gwybod fy mod i'n dioddef o iselder - mae hynny'n cynnwys fy nghydweithwyr, fy ffrindiau a hyd yn oed aelodau o'm teulu. (Mater arall yw pa mor "lwcus" o bosib yw hynny - efallai ei bod hi'n wendid arnaf i am fethu dweud wrthyn nhw.) Ond mi fyddai rhai yn synnu ac yn rhyfeddu o glywed am fy salwch, mae'n siŵr gen i, ac yn meddwl taw fi fyddai'r person diwethaf i fod yn isel! Oherwydd bore heddiw fe wnes i beri i'm cydweithwyr chwerthin a chael hwyl wrth adrodd straeon digri. Ac roedd hynny'n deimlad braf.
Sy'n dwyn i gof stori a glywais i gan ddarlithydd enwog: Aeth dyn at y meddyg a dweud, 'Doctor, rwy'n teimlo'n isel'. [Mae'n swnio fel dechreuad i jôc!] Dyma'r doctor yn awgrymu, 'Pam nad ewch chi i godi'ch calon a mynd i weld perfformiad Coco'r Clown?' Ac yna mae'r ateb yn dod, 'Fedra'i ddim doctor. Fi yw Coco'r Clown.' Waw, dyna beth yw dyfnder!
Mae'r prynhawn yn tipyn mwy o struggle. Methu canolbwyntio, methu paratoi a meddwl ymlaen, ofni beth y mae pobl yn feddwl ohona'i ...
Ond rwy'n dal ati, a dyna sy'n bwysig. Dwi ddim yn gadael i'r salwch reoli fy mywyd.