Digwyddodd rhywbeth positif iawn ddoe. Cefais sgwrs gyda chydweithiwr hŷn am sut mae hi arna i y dyddiau yma. Rwy'n medru bod yn swil a dyw siarad am bethau'r galon - ac yn arbennig rhywbeth dyrys fel salwch meddwl - ddim yn rhwydd. Ond wedi sgwrs hamddenol ac agored, dywedodd hi wrtha i fy mod i'n ddewr. Dyna un gair na fyddwn i byth wedi'i ddefnyddio i ddisgrifio fy hun! Ond roeddwn i'n ddiolchgar o'i glywed, ac yn gwybod ei bod hi'n ddidwyll.
Pwy feddyliai - fi'n ddewr!?! :)
Felly, mae'n gam mawr ymlaen i fedru rhoi profiadau dyrys a chymysglyd y meddwl mewn geiriau a sôn am hyn wrth rywun y medra i ei drystio. A dod allan y pen arall heb deimlo embaras na chael fy siomi, na neb yn rhedeg ffwrdd.