I'r rhai sy'n dilyn Paul Griffiths ar Twitter, fe fyddwch chi'n gwybod am ei brofiadau ac am y ddrama radio sydd newydd ei darlledu ar Radio Cymru. Af i ddim i ymhelaethu ar y ddrama, dim ond dweud ei bod yn ddirdynnol ac yn codi o brofiadau personol Paul gydag iselder ysbryd a'i ymgais i ladd ei hun. Bydd y ddrama, Dan yr Wyneb, ar gael am rai dyddiadu eto ar BBC iplayer: http://www.bbc.co.uk/programmes/b03fv69r
Hefyd, mae cyfweliad gyda Paul Griffiths ar wefan BBC: http://www.bbc.co.uk/darganfod/24804114
Diolch Paul am eich gwaith o godi ymwybyddiaeth i salwch meddwl ac am fod mor agored. O na fyddwn innau'n gallu bod mor ddewr!