Mae'r awydd i greu'r wefan hon wedi codi o'r trafod agored, gonest fu ar Taro'r Post (BBC Radio Cymru) yr wythnos ddiwethaf.
Dyma erthygl ar wefan BBC Cymru yn cyfeirio at un o gyfrannwyr y sgwrs ar Taro'r Post, Bethan Jenkins AC.
----
'Anodd siarad am iselder'
Mae'r AC Bethan Jenkins wedi bod yn siarad am ei hiselder - a'i hymateb i'r ffaith fod yr actor Stephen Fry wedi siarad am ei ymgais i ladd ei hun y llynedd.
Wrth siarad â rhaglen Taro'r Post, dywedodd Ms Jenkins:
"Mae'n anodd i bobl sy' ddim yn diodde' i ddeall, ond y mwya o bobl sy'n siarad am y peth, fi'n credu y bydd e'n helpu'r achos ac yn help i bobl i ddeall..."
Pan gafodd Bethan Jenkins ei dedfrydu am yfed a gyrru'r llynedd, dywedodd ei chyfreithiwr ei bod yn dioddef o iselder.
'Pwysig i siarad'
Dywedodd Ms Jenkins ei bod hi'n ei chael hi'n anodd siarad yn gyhoeddus am y cyflwr.
"Mae e yn anodd, achos fi'n credu unwaith mae pobl yn siarad am y peth, mae rhai pobl wastad yn mynd i ddweud 'wel ydy hi'n dweud y gwirionedd'? 'ai dyna beth sydd yn digwydd?' neu falle'n cwestiynu ydych chi'n ddigon cryf wedyn i neud y swydd rydych chi'n gneud," meddai.
"Mae e yn anodd siarad amdano, oherwydd mae e am dy fywyd personol - ond fi'n credu bod hi'n bwysig i bobl siarad. Dwi wedi cael lot o negeseuon ar Twitter, Facebook ac e-bost gan bobl sydd wedi rhannu eu straeon fel rhan o'r ymgyrch Time to change ."
"Ro'n i wedi bod yn derbyn cwnsela cyn y digwyddiad y flwyddyn ddiwethaf, felly ro'n i wedi dechrau dod i ddygymod a'r peth rili, ond fel gyda lot o broblemau iechyd meddwl 'da chi'n trio gwadu fe i chi'ch hun, 'da chi jyst yn dweud 'wel dwi wedi cael diwrnod anodd yn y gwaith, neu 'dwi jyst yn teimlo'n isel achos bod rhywbeth wedi digwydd yn y dydd' ond nid dyna beth yw e, problem iselder yw e.
"Dwi wedi gneud eitha' lot gydag anhwylderau bwyta, ac mae pobl sy'n cael anhwylder bwyta yn gwadu eu bod nhw'n sâl.
"Dwi'n credu mai dyna beth oedd e gyda fi am sbel fawr - jyst trio cario ymlaen gyda gwaith, jyst trio bod yn gryf, trio copeio, ond wedyn sylweddoli bod e ddim yn bosib a hwnna yn anffodus yn arwain at ddigwyddiad ble yn amlwg dwi ddim yn hapus bod e wedi digwydd, ond mae rhaid i bobl gael eu maddau hefyd."
"Mae rhaid i bobl gael ail gyfle... Rydw i wedi dysgu o'r hyn nes i, ac mae pobl yn eironig wedi gallu dod lan ata i a siarad â fi, a dweud 'wel Bethan dy' ni'n credu ynddoch chi achos bod chi'n real, achos bod chi wedi cael problemau, does dim un ohonom ni'n berffaith'.
"Ac wedyn dwi'n teimlo cysur fod pobl yn gweld hynny, ac yn fodlon maddau ac yn fodlon gweld nawr be' dwi'n gneud fel Aelod Cynulliad a'r gwaith caled dwi'n gneud, er fy mod i'n dal yn dioddef o iselder...
Cuddio'r cyflwr
Cytunodd ei bod hi wedi llwyddo i guddio'i chyflwr yn dda.
"Weithiau gydag iselder, ma' rhaid i chi ddangos rhyw fath o ffrynt mawr a phan ych chi'n mynd adre, 'da chi ddim yn teimlo fel yna rhagor."
"Mae'n iawn i bobl ddweud , 'wel chi'n edrych yn iawn Bethan', ond nid sut ' mae pobl yn edrych yw e, sut mae pobl yn teimlo tu fewn."
"Mae'n bwnc anodd iawn i fi siarad amdano."
Dywedodd fod angen sicrhau digon o help i bobl gyda phroblemau iechyd meddwl gan gynnwys triniaeth, a mynediad i gynghorwyr arbenigol yn hytrach na rhoi'r argraff i bobl bod angen iddyn nhw fynd i'r afael â'r problemau ar eu pennau eu hunain.
Hynny, meddai, sy'n achosi sefyllfaoedd ble mae pobl yn meddwl am gymryd eu bywydau eu hun, a ble mae niferoedd y dynion ifanc sy'n lladd eu hunain yng Nghymru "yn afresymol o uchel".
http://www.bbc.co.uk/newyddion/22804884